Enghraifft o'r canlynol | protest, gwrthryfel, rhyfel cartref, chwyldro |
---|---|
Dyddiad | 17 Rhagfyr 2010 |
Dechreuwyd | 18 Rhagfyr 2010 |
Daeth i ben | Rhagfyr 2012 |
Lleoliad | Y Byd Arabaidd |
Yn cynnwys | Syrian revolution, Chwyldro'r Aifft, Chwyldro Libia, Chwyldro Iemen, ymgais ar coup d'état yn Libia 2013, Chwyldro Tiwnisia, protestiadau yn Algeria 2010–12, protestiadau yng Ngwlad Iorddonen 2011–12, Gdeim Izik protest camp, protestiadau yn Oman 2011 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfres o brotestiadau a gwrthryfeloedd mewn llawer o wledydd y Byd Arabaidd a thu hwnt yw Y Gwanwyn Arabaidd (neu Protestiadau'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, 2010–2011). Taniwyd y wreichionen gyntaf yn Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun i farwolaeth ar 17 Rhagfyr 2010 yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia. Dilynwyd hyn gan gyfres o brotestiadau gan y werin a alwyd yn Chwyldro Jasmin neu Intifada Tiwnisia.
Ymledodd y protestiadau hyn ar hyd a lled y gwledydd Arabaidd: yr Aifft, Algeria, Bahrein, Jibwti, Gorllewin Sahara, Gwlad Iorddonen, Iran, Ciwait, Libia, Moroco, Tiwnisia a Iemen gyda phrotestiadau llai yn Irac, Mawritania, Oman, Sawdi Arabia, Senegal, Somalia, Swdan a Syria. Mae'r protestiadau wedi cynnwys gorymdeithiau, ralïau a streiciau ac mae'r protestwyr wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter yn aml.